Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Mai 2019
Amser:
09.00 -
09.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5541
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Mike Hedges AC |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Ryan Bishop (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y tystion arfaethedig ar gyfer y sesiynau tystiolaeth lafar a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a Chomisiwn y Cynulliad, yn gofyn am wybodaeth ychwanegol.
2.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynigion i ddiwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r ymgynghoriad.
3.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer haf 2019 a chytunodd arno.
4.1 Trafododd y Pwyllgor amrywiaeth o opsiynau ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn perthynas â chraffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.
5.1 Nododd y Pwyllgor y cyflwynwyd y fersiwn flaenorol a ystyriwyd ar 15 Mai 2019 mewn camgymeriad a chytunodd ar y fersiwn gywir o Gyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Cynulliad 2019-20.